Mis Mai
(o Gwinllan
y Bardd: 1831)
Mor dêg a hyfryd ydyw Mai,
Pob peth heb’drai sy’n ddedwydd,—
Mor hardd eu drych yw bloda’'r drain
A geir yn gain ar gynnydd,—
Aderyn bach, mor bêr dy big,
A’th gân ar frig y gwinwydd.
Y ddaear rwydd sydd oll yn wres,
A glân yw tês y glennydd,—
Mor fwyn y gwenyn sydd yn gwau,
Gan sugno diliau'r dolydd.
Ac arwain adre ‘u llwythau llawn
Ar dynnion iawn adenydd.
Mor lwys a llon yw meillion Mai,
Y lili a’i chwiorydd,—
Fel llawn yr afon pan bo lli’,
Llawn clod a bri yw’r bröydd:
A daethost tithau ‘nol yn iach,
Gu wennol fach I’n gweunydd.
Mor felus clywed llais y gôg,
A gweled clôg y coedydd,
Mewn llawen fraint a’u lliw yn frith,
Ac arnynt wlith boreuddydd,—
A gwrando wrth fachludiad sêr
Ar ganiad pêr uchedydd.
I roeso Mai, O deued myrdd,
A’i wên yn wyrdd ar wawrddydd;—
E ddarfu’r gauaf oer ei naws
Fu’n hir yn draws-reolydd,
Mae Mai mewn braint uwch unrhyw bris,
Y goreu Fis i faesydd.
Coroner Mai trwy’r byd ar g’oedd
Yn ben y miaoedd mwynrydd
A blodau teccaf trwy y tir,
Nes byddo’n wir ysblennydd,—
A doed i ganu ‘i fawl yn ffrwd
Mewn cariad brwd bob prydydd.
Daniel Evans (1792-1846)
Clerigwr a bardd o Gymru
|
To May
(from The Bard’s Vineyard: 1831)
How fair and
fragrant art thou, May!
Replete with leaf
and verdure,
How sweet the
blossom of the thorn
Which so enriches
nature,
The bird now sings
upon the bush,
Or soars through
fields of azure.
The earth absorbs
the genial rays
Which vivify the
summer,
The busy bee hums on
his way
Exhausting every
flower,
Returning to its
earthen nest
Laden with honied
treasure.
How cheerful are the
signs of May,
The lily sweet and
briar,
Perfuming every
shady way
Beside the warbling
river;
And thou, gay
cuckoo! hast returned
To usher in the
summer.
How pleasant is the
cuckoo’s song
Which floats along
the meadow,
How rich the sight
of woodland green,
And pastures white
and yellow,
The lark now soars
into the heights
And pours her notes
so mellow.
To welcome May, let
thousands hie
At the sweet dawn of
morning,
The winter cold has
left the sky,
The sun is mildly
beaming,
The dew bright
sparkles on the grass,
All nature is
rejoicing.
Let May be crown’d
the best of months
Of all the passing
year,
Let her be deck’d
with floral wreaths,
And fed with juice
and nectar,
Let old and young
forsake the town
And shout a welcome
to her.
Daniel Evans
(1792-1846)
Welsh
cleric and poet
Translation as found in
John Jenkins, Esq. (ed.): The Poetry of Wales. London 1873 |
Pages
▼
No comments:
Post a Comment
Dear anonymous spammers: Don't waste your time here! Your comments will be deleted at once without being read.